Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17
Tachwedd 2015
Amser y
cyfarfod: 13.30
(30 munud)
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal am ddyfodol swyddfeydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghymru?
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
NNDM5883 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6:
Yn atal rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5874 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2015.
(30 munud)
NNDM5874 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Hydref 2015.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau
Canlyniadol) 2015
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn
unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
(60 munud)
NDM5873 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15.
'Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15'
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhelliad yn yr adolygiad annibynnol o Gomisynydd Plant Cymru gan Dr Mike Shooter y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros benodi a chyllido y comisiynydd plant i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
'Adolygiad Annibynnol o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru'
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Swyddfa'r Comisiynydd yn 'dal i bryderu ynghylch y diffyg cynnydd parhaus mewn meysydd allweddol o CAMHS, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau ymyrraeth gynnar; mynediad at CAMHS arbenigol cymunedol, gan gynnwys therapïau seicolegol; protocolau asesu ac argaeledd triniaeth a chymorth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig; darpariaeth mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid; a lefel yr adnoddau a ddyrannwyd i CAMHS'.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed fel mater o frys.
(15 munud)
NDM5882 Lesley Griffiths (Wrexham)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)
Dogfennau Ategol
Bil
Rhentu Cartrefi (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
(180 mins)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 fel y cytunwyd gan y Cynulliad ar 10 Tachwedd 2015.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”
77, 103, 104, 102, 76
2. Personau addas a phriodol
78, 79, 83, 85, 86, 1, 91, 92, 94, 34
3. Hyd ymweliadau cymorth cartref
80, 81, 84, 87, 93
4. Amodau ar gyfer caniatáu cais
82
5. Datganiad blynyddol
88, 89, 90
6. Rhybuddiadau
2, 3, 25, 36
7. Gwarhardd contractau dim oriau
95, 99, 100, 101
8. Chwythu’r chwiban
96, 98
9. Rheoliadau am safonau’r gofal a’r cymorth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth
97
10. Adolygwyr lleyg
38, 39
11. Cydymffurfio ag Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig
40, 41, 67
12. Achosion o ran troseddau o dan Ran 1
4
13. Cywiriadau technegol a chywiriadau drafftio
5, 28, 10, 14
14. Comisiynu gwasanaethau rheoleiddiedig
74, 75
15. Cofrestrau a gedwir neu a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru
6, 20, 24, 31, 7, 8, 9, 11, 12, 13, 37, 35
16. Rheoliadau ynghylch gwybodaeth sy’n ymwneud ag asesu cynaliadwyedd ariannol darparwyr gwasanaeth
68
17. Rheolau, codau a chanllawiau a wneir gan Ofal Cymdeithasol Cymru o dan y Ddeddf hon
15, 16, 17, 18, 29, 30
18. Ystyr “gweithwyr gofal cymdeithasol”
19
19. Cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
42, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66
20. Cofrestru
21, 22, 23
21. Addasrwydd i ymarfer
26, 27
22 . Arfer swyddogaethau ar y cyd
32, 33
23. Gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau a gorchmynion
69, 70, 71, 72, 73
Dogfennau Ategol
Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
Grwpio Gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2015